Mae'r llwybr gwastad a hawdd yn dilyn llwybr tynnu'r Shropshire
Union Canal wrth i hwnnw gyd-redeg â'r afon a Rheilffordd Stêm
Llangollen, a adferwyd.
|
Pellter: 3 km/2 filltir Graddfa: Hawdd (byr a gwastad)
Cored ar ffurf hanner cylch yw Rhaeadr y Bedol. Yr enwog Thomas Telford a'i
lluniodd yn 1806 i gyflenwi dwr i Gangen Llangollen o'r Shropshire Union
Canal. Hyd gyfnod y rheilffyrdd roedd y gamlas yn un brysur iawn ac arni gychod
yn cludo llechi i Birmingham a Llundain. Gwaetha'r modd, tynnodd y gamlas
gymaint o ddwr o'r afon nes i nifer o felinau'r Afon Ddyfrdwy fynd allan
o fusnes.
|
Yn uwch i
fyny'r afon o Langollen, mae Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy'n culhau ac yn torri
drwy'r bwlch rhwng Mynyddoedd Llantysilio a'r Berwyn. Yma ceir llwybrau
trafnidiaeth hanesyddol yn closio at ei gilydd afon, camlas, a thyrpeg
Telford o Gaergybi i Lundain yr A5. Mae'r pedwar i'w gweld yn y Berwyn.
Ond er bod y ffordd yn brysur, erbyn hyn twristiaid tymhorol yn unig sy'n
teithio ar yr afon, y gamlas a'r rheilffordd.
|
 |
|