Y tu hwnt i'r Rhewl, mae'r llwybr yn troi o amgylch dolen fawr yn
yr afon, gan fynd heibio eglwys Llantysilio ac i raeadr anghyffredin Telford
Rhaeadr y Bedol.
|
Pellter: 3 km/2 filltir Graddfa: Canolig (rhai
elltydd)
Rhan o'r llinell drên wreiddiol o Riwabon i'r Abermaw, a
gafodd ei hadfer, yw Rheilffordd Stêm Llangollen. Yn union fel nifer o
linellau eraill Cymru fe agorodd y rheilffordd yn y 1860au. Bu'n ffynnu tan tua
1900 a dirywio yn y 20au a'r 30au. Caeodd o dan doriadau Beeching yn 1968. Mae
gwirfoddolwyr brwd wrthi'n adnewyddu'n ofalus ers 1975.
|
Mae Eglwys
Llantysilio yn sefyll ar ddarn o dir uchel yn ymyl Rhaeadr y Bedol. Cysegrwyd
yr eglwys i Sant Tysilio, mab i dywysog lleol. Adnewyddwyd llawer ar yr eglwys,
er hynny mae modd gweld rhannau o'r eglwys wreiddiol, a adeiladwyd tua 1254, yn
y mur gogleddol. O ran diddordeb; addolodd y bardd Robert Browning yma am ddeg
wythnos yn hydref y flwyddyn 1886.
|
 |
|