Dilynwch y ffyrdd bach troellog i fyny'r allt, ac yna dilyn y
llwybr ar draws lethrau isaf Mynydd Llantysilio a chyrraedd hen dafarn y
porthmyn yn Rhewl.
|
Pellter: 5 km/3 milltir Graddfa: Anodd (hirach, rhai
bryniau)
Ffurfiwyd y graig galed sydd o dan Mynydd Llantysilio yn ystod
y cyfnod Silwraidd, tua 45 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn
rheolir ardaloedd y grug porffor, y llus gwyrdd ac eithin y mynydd ar gyfer y
bywyd gwyllt. Mae rhai adar prin y rhostiroedd ar y mynydd ac yn eu plith y
gylfinir, cwtiad aur, mwyalchen y mynydd, cudyll bach, a'r rugiar
ddu.
|
Tafarn o'r
14 ganrif yw'r Sun Inn yn Rhewl. Ar hyd y canrifoedd bu'r porthmyn yn gyrru
gwartheg a defaid ar draws y mynydd i'r marchnadoedd ar wastadeddau Lloegr.
Datblygodd llwybrau'r porthmyn i osgoi talu'r tollau ar y ffyrdd. Roedd bwyd a
lloches ar gael yn y tafarndai ar y ffyrdd anghysbell hyn, a lle i aros y nos.
Wrth ochr y dafarn roedd corlannau diogel i'r anifeiliaid.
|
 |
|
| Edrychwch am
Cydnabyddir rhannau helaeth o
Fynydd Llantysilio yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am eu bod yn
werthfawr fel rhostiroedd. Un rhywogaeth allweddol sydd yma yw'r rugiar ddu,
sy'n parhau'n brin ac sy'n hoffi'r cynefinoedd rhwng y rhostir a'r goedwig. Yn
ystod y gwanwyn cynnar mae'r ceiliogod, sydd â phlu du, yn arddangos o
flaen yr ieir, sydd â phlu brown, yn eu llecynnau paru
traddodiadol.. |