|
|
|
|
Carrog -
Glyndyfrdwy |
| |
Mae'r llwybr yn dringo o'r bont garreg yng Ngharrog a thrwy'r
caeau a'r coed cyn disgyn i bentref Glyndyfrdwy.
|
Pellter: 6.5 km/4 milltir Graddfa: Anodd (hirach, rhai
bryniau)
Pentref tlws yw Carrog a dyfodd o gwmpas y bont garreg a
godwyd yn y 17eg ganrif. Mae bwâu'r bont yn ymestyn ar draws yr Afon
Ddyfrdwy. Ystyr yr enw Carrog yw 'nant sy'n llifo'n gyflym'. Yn y 1600au cafodd
yr hen eglwys ei golchi i'r afon gan lifogydd. Fe'i hailadeiladwyd ar dir uwch.
Yn union ar draws yr afon mae gorsaf Rheilffordd Stêm Llangollen. Mae'r
trenau'n rhedeg oddi yma o fis Ebrill tan fis Hydref.
|
Mae i
bentref Carrog gysylltiadau agos gydag Owain Glyndŵr. Mae safle ei hen
blas ar draws yr afon yn Llidiart-y-Parc. Ac yma, yn ymyl ffordd dyrpeg brysur
yr A5, saif olion tomen castell a elwir, yn ôl traddodiad, yn Domen Owain Glyndŵr. Ychydig sy'n gwybod mai'r enw gwreiddiol ar bentref Carrog, cyn
oes y rheilffyrdd, yw Llansantffraid Glyndyfrdwy. Tybir fod enw Owain Glyndŵr yn tarddu o enw'r pentref.
|
 |
|
| Chwiliwch am.... Mae dyfroedd di-lygredd y rhan
yma o'r Afon Ddyfrdwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae yma
boblogaeth iach o eog, brithyll a llysywen. Yn eu tro, mae'r pysgod hwythau'n
denu'r dyfrgwn swil, sy'n dod allan yn y nos gan amlaf. Un arall sy'n byw wrth
yr afon yw llygoden y dŵr-yr enwog 'Ratty', o'r llyfr The Wind
in the Willows.. |