O gychwyn yng Nghorwen mae'r llwybr yn dringo i fan sy'n union o
dan fryngaer Caer Drewyn cyn mynd yn ei flaen y tu uchaf i'r Afon Ddyfrdwy ac i
bentref Carrog.
|
Pellter: 6.5 km/4 milltir Graddfa: Canolig (peth
dringo)
Hen dref farchnad, a leolwyd lle mae cymer afonydd Dyfrdwy ac
Alwen yn Nyffryn Edeyrnion, yw Corwen. Yn oes Fictoria, pan roedd Corwen yn ei
hanterth, roedd y ffordd a'r rheilffordd yn cyfarfod ar gyfer mynd ymhellach i
ogledd Cymru. Heddiw, mae canol y dref yn bwysig o ran y bensaernïaeth a'r
diddordeb hanesyddol ac mae'n ardal cadwraeth ddynodedig.
|
Y tu uchaf
i Gorwen mae un o fryngaerau Oes yr Haearn a gafodd ei chadw orau yng Nghymru.
Ystyr yr enw Caer Drewyn yw 'caer tref gwyn' a bu pobl yn byw yma rywdro rhwng
600cc a goresgyniad y Rhufeiniaid. Ar un adeg, efallai bod palisâd pren
ar ben y gaer i amddiffyn yr anheddiad o dai to gwellt, mawr, crwn. Chwiliwch
am olion eu sylfeini cerrig wrth ochr y gaer.
|
 |
|