Sut i ddod o hyd i Lwybr Dyffryn Dyfrdwy Mae Llwybr
Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg am 24km/15milltir rhwng Corwen a Llangollen. Mae'r
ddwy dref ar briffordd yr A5 (Caergybi-Llundain), nid nepell o ffin
Lloegr.
Dechreuwch drwy ddewis
eich man cychwyn naill ai Corwen neu Langollen. Er bod yr arweiniad yn
cychwyn o Gorwen, mae modd cerdded ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy o unrhyw
gyfeiriad. Os hoffech gerdded o Langollen i Gorwen yna dechreuwch yn rhan olaf
yr arweiniad a gweithio'n ôl. Os hoffech gael tro byrrach yna dewiswch
ran neu ddwy sy'n addas ichi, neu (i'ch cyrchu i gychwyn neu i ben eich tro)
gallwch deithio ar y trên stêm neu ar y cwch ar y gamlas gyda
cheffyl yn tynnu.
|
 Gallwch lwytho'r daflen
"Teithiau Cerdded Dyffryn Dyfrdwy " i lawr yma.... Sylwch fod y daflen ar ffurf Adobe .pdf
ac mae'n 3.8Mb |