Hafan Gwybodaeth Cerddwch ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy Cerdded Llwybr Gogledd y Berwyn Llangollen Corwen

Cerddwch ar hyd Llwybr Hanes Llangollen

 

DEWCH i ddarganfod hanes tref Llangollen a dyffryn yr Afon Ddyfrdwy wrth gerdded y llwybr cylchol hwn gydag arwyddion hawdd-eu-dilyn arno. Bydd y golygfeydd syfrdanol, y wlad hardd a’r doreth o fywyd gwyllt yn ei gwneud yn daith gerdded wirioneddol gofiadwy.


Gallwch lwytho'r daflen "Llwybr Hanes Llangollen" i lawr yma....

Sylwch fod y daflen ar ffurf Adobe .pdf ac mae'n 803Kb
 

1. Cerddwch i lawr Stryd y Castell yng nghanol tref Llangollen, croesi'r bont a dilyn yr arwyddion am ½ milltir/0.5km i Gamlas Llangollen.   Agorodd Camlas Llangollen yn 1805 er mwyn cludo llechi o’r chwareli cyfagos i ddinasoedd Lloegr oedd yn tyfu’n gyflym ar y pryd, ond pan ddaeth y rheilffyrdd, buan iawn yr aeth y cwmnïoedd camlesi’n fethdalwyr. Sefydlwyd cwmni cychod pleser Glanfa Llangollen yn 1884, a gall ymwelwyr barhau i fwynhau taith ar gwch gyda cheffyl yn ei dynnu hyd heddiw.  
2. Bydd yr arwyddion yn eich tywys ar hyd y llwybr tynnu am 2 filltir/3km hyd at Raeadr y Bedol. Argae ar siâp hanner cylch yw Rhaeadr y Bedol. Y Peiriannydd enwog Thomas Telford a’i gynlluniodd yn 1806 i gyflenwi dwˆr i’r Shropshire Union Canal. Am fod y gamlas yn tynnu cymaint o ddwˆr o’r afon Ddyfrdwy gorfodwyd i nifer o felinau lleol fynd allan o fusnes.
3. Cerddwch yn eich blaen am ½ milltir/0.5km i Eglwys Llantysilio. Saif Eglwys Llantysilio ar dir uchel i’r gogledd o Raeadr y Bedol. Yn wreiddiol, roedd yma eglwys fechan a adeiladwyd tua 1254. Adnewyddwyd yr eglwys yn llwyr yn 1869 yn ystod oes Fictoria. Y tu mewn i’r eglwys gwelir darllenfwrdd derw canoloesol prin ar ffurf eryr a ddau ffigur o wydr lliw o’r 15fed ganrif a osodwyd yn y ffenest ogleddol, sydd yn ddiweddarach.
4. Cerddwch ymlaen am ½ milltir/0.8km i Fryn Hyrddyn. Yn ôl rhai pobl mae’r enw Bryn Hyrddyn yn cyfeirio at ysgerbwd hir a ddatguddiwyd o dan Biler Eliseg.
5. Ar ol cerdded am ¾ milltir/1km arall fe gyrhaeddwch Abaty Glyn y Groes. Ar un cyfnod Abaty Glyn y Groes oedd ail abaty Cymru o ran cyfoeth. Tintern oedd y cyfoethocaf. Mynachod Sistersaidd a’i sefydlodd yn 1201. Bu pobl yn byw yn yr abaty tan gyfnod Diddymu’r Mynachlog yn 1537. Cyfeiria’r enw at Biler Eliseg cyfagos, sef croes carreg o’r nawfed ganrif a osodwyd er cof am un o arweinwyr cynharaf Powys.
6. O Abaty Glyn y Groes dilynwch am 2 milltir/3km i Gastell Dinas Bran. Adeiladwyd Castell Dinas Bran yn yr 1260au gan y Tywysog Gruffudd ap Madog i warchod y ffordd strategol drwy ddyffryn yr Afon Ddyfrdwy. Bu oes gweithio’r Castell yn un fer, ac fe’i gadawyd yn 1282. Yn y murddun trawiadol ceir tyrau ar ffurf y llythyren D, sef cynllun a oedd yn hoff gan y Cymry.
7. O Gastell Dinas Bran, mae'r llwybr yn troi'n ol am ½ milltir/1km ac i lawr i Langollen


Ni fyddai'r safle hwn yn bosib oni bai am gefnogaeth hanfodol oddi wrth y noddwyr hyn: