O Ffynnon-Las mae'r llwybr yn dilyn ffordd amlwg sydd â
choed ar y naill ochr a'r llall, cyn disgyn yn raddol drwy'r caeau i lawr i
dref Llangollen ar lan yr Afon Ddyfrdwy.
|
Pellter: 2.4 km / 1.5 milltir Graddfa: Canolig (i lawr yn
raddol ond byr)
Pentref cymharol fychan oedd Llangollen cyn i Thomas
Telford adeiladu'r ffordd A5 i Gaergybi drwyddo yn 1815. Daeth masnach a
chyfoeth i Langollen oherwydd y ffordd newydd, ac fe dyfodd yn dref Fictoraidd
ffyniannus dros ben gan ddenu ymwelwyr i fwynhau harddwch glannau'r afon gyda'r
mynydd yn gefndir i'r dref. Canol y dref yw'r bont o'r 14 ganrif y mae
sôn amdani yn y rhigwm enwog am Saith Rhyfeddod Cymru.
|
Rhwng 1790
ac 1831 roedd Plas Newydd, Llangollen yn gartref i ddwy Wyddeles fonheddig,
Lady Eleanor Butler a Sarah Ponsonby. Galwyd hwy yn Ladis Llangollen ac roedd
eu cyfeillgarwch yn destun diddordeb a sgandal ymhlith cymdeithas Oes y
Rhaglywiaeth. Daeth nifer o bobl lenyddol a dylanwadol i ymweld â hwy,
gan gynnwys Wordsworth, Sir Walter Scott, Yr Arglwydd Byron a'r Duke of
Wellington.
|
 |
|