|
|
|
|
Coedwig Nantyr i Ffynnon
Las |
| |
Â'r llwybr yn ei flaen ar hyd ymyl y goedwig gyda'r rhostir
i'r gogledd iddo cyn disgyn yn raddol i lawr Mynydd y Feifod a dros y
rhostiroedd agored i Ffynnon Las.
|
Pellter: 5.6 km / 3.5 milltir Graddfa: Anodd (rhostiroedd
agored, peth dringo)
Ar gopa Mynydd y Feifod mae carnedd gladdu o Oes
Yr Efydd, ac un arall ar frig y bryn cyfagos. Awgryma hyn fod pobl Oes yr Efydd
yn gwneud defnydd o'r ardal, yn clirio'r llethrau oedd yn is i lawr ac yn
claddu'u meirw ar y tir uchel. Cafodd y rhostir o gwmpas Mynydd y Feifod
|
Cafodd y
rhostir o gwmpas Mynydd y Feifod ei reoli ar gyfer saethu'r rugiar ers
dechrau'r 20 fed ganrif. Chwiliwch am linellau o gerrig a phridd, dyma'r
cloddiau saethu sy'n cysgodi'r gynau ac yn cuddio'r saethwyr rhag yr adar a
gaiff eu gyrru ar draws y mynydd gan y curwyr. Byddai'r ciper yn llosgi'r grug
yn rheolaidd er mwyn gofalu bod digon o egin newydd ar gyfer y grugieir ifanc.
Roedd rheoli fel hyn yn lles i rywogaethau eraill o adar ac anifeiliaid hefyd
gan rwystro'r rhostiroedd grug rhag troi'n ôl yn dir prysgwydd. Efallai
ichi sylwi ar lyn bach o ddw r. Mae'n bosib mai man i hudo hwyaid iddo
oedd hwn yn wreiddiol, cafodd ei lunio'n ofalus i ddenu'r hwyaid gwyllt i'r
ffos gyfagos a'r rhwydi gan ei gwneud yn hawdd eu dal.
|
 |
|
| Edrychwch am
Efallai y clywch grawc y
Gigfran wrth iddi hedfan heibio'n araf, neu alwad y Bwncath, fel cath yn
mewian, yn cylchu uwchben. Hawdd adnabod galwad hiraethus y Gylfinir sydd
â gylfin (pig) hir, mae hi'n magu cywion ar y rhostir yn yr haf. Yn aml
iawn fe welwch Tinwen y Garn, sydd yn llai a'i phen-ôl yn wyn, yn sefyll
ar ben craig neu bostyn. Ymwelydd haf yw hi.. |