Dechreuwch o Lidiart y Parc neu o Lyndyfrdwy. Dringa'r llwybr
cylch hwn drwy'r goedwig i'r rhostiroedd agored, yna mae'n dilyn ffordd hen
dramffordd y chwarel ar ochr y bryn. Gallwch orffen y cylch drwy ddefnyddio
Llwybr Dyffryn Dyfrdwy neu'r trên stem a dod yn ôl i'ch man
cychwyn.
|
Pellter: 10.4 km / 6.5 milltir Graddfa: Anodd (yn bellach gyda
pheth dringo)
O'r fro hon roedd Owain Glyndwr yn hanu. Roedd yn berchen
dau gartref yn yr ardal, un yn Llidiart y Parc a'r llall dros fynydd y Berwyn
yn Sycharth, ger Croesoswallt. Efallai iddo ddefnyddio llwybr rhwng y ddau
dy gan ddod i lawr yn ymyl Coedwig Carrog i Lidiart y Parc.
|
Edrychwch
am olion Melin Nant y Pandy a fyddai'n ffrwyno grym y nant gyflym i yrru'r
llifiau oedd yn torri llechfeini'n slabiau i'w defnyddio mewn ysbytai, bragdai,
i adeiladu ac i wneud cerrig beddi. Cludwyd y llechi ar y dramffordd i'r orsaf
yng Nglyndyfrdwy i'w hanfon at gwsmeriaid mewn rhannau eraill o Brydain ac i'w
hallforio.
|
 |
| |
|
RHYBUDD Peidiwch â mynd i mewn i unrhyw adfeilion chwarel
na tharfu arnynt. Gallant fod yn ansad. Dilynwch y llwybr sydd â saethau
arno o gwmpas yr adeilad. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw ei iechyd a'i ddiogelwch
ei hunan. Dylid goruchwylio plant bob amser. Mae'r adeiladau ar dir a fapiwyd
yn Dir Agored, nid ydynt yn eiddo Cyngor Sir Ddinbych, nac o dan eu
rheolaeth. |