O bentref Cynwyd, fe â'r llwybr yn ei flaen drwy'r goedwig
goniffer i'r rhostiroedd agored gan ddringo'n raddol i ben Moel
Fferna.
|
Pellter: 8.4 km / 51/4 milltir Graddfa: Anodd (dringo'n
raddol)
O ben Moel Fferna - man uchaf Llwybr Gogledd y Berwyn -
ymestynna'r bryniau grugog i bob cyfeiriad. Mae golygfeydd am bellter; tua'r
Gogledd i Fynyddoedd Llantysilio a Moelydd Clwyd, i'r Gorllewin tua'r Arennig,
ac i'r De i Fryniau'r Berwyn.
|
Mynyddoedd
y Berwyn yw un o'r ardaloedd ehangaf a mwyaf deniadol o rostiroedd uchel sy'n
dal i fodoli yng Nghymru. Dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac
yn Ardal Cadwraeth Arbennig i gydnabod eu pwysigrwydd amgylcheddol. Ar y
priddoedd sur fe ffynna'r Grug, y Llus, a'r Creiglys y mynydd. Datblygodd yr
Orgors ar y mannau gwlypaf lle gallwch weld blodau Plu'r Gweunydd, Mwsogl y
Fawnog a phlanhigion eraill anghyffredin fel Gwlithlys a Thafod y Gors, sy'n
'bwyta' pryfed. I adar ysglyfaethus, mae'r mynydd gwyllt yn lle delfrydol am
eu bod yn cael cyfle i fagu cywion heb rwystr ac am fod eu hysglyfaeth -
mamaliaid ac adar bach - yn niferus ymysg y grug a'r glaswelltir
garw. |
 |
|
| Edrychwch am
Efallai gwelwch y Wiwer
goch, sy'n prinhau'n gyflym, mewn coed coniffer yn Ne Sir Ddinbych, fel Coedwig
Cynwyd. Gostyngodd niferoedd y wiwer dlos frodorol hon pan gyflwynwyd Gwiwer
Fawr America yn yr 1870au. Fel y Gwiwerod Llwyd, maent yn cuddio'u bwyd yn y
ddaear ac yn byw mewn nythod crwn yn y coed, ond maent yn fwy swil ac anodd eu
gweld.. |