|
|
|
|
Corwen i
Gynwyd |
| |
Gan gychwyn yng Nghorwen, mae'r llwybr yn dilyn yr hen reilffordd
(wedi cau) o Gorwen i Gynwyd sy'n rhedeg ar lannau'r Afon Ddyfrdwy i bentref
Cynwyd.
|
Pellter: 3.6 km / 2.25 milltir Graddfa: Hawdd
Rhan
o'r lein o Riwabon i'r Abermo oedd rheilffordd Corwen i Gynwyd. Byddai ymwelwyr
â glan y môr yn arfer â theithio ar y lein yma a agorodd yn
1866 a chau yn 1968. Daeth yr hen lein trên yn gynefin pwysig i fywyd
gwyllt pan dyfodd y coed a'r glaswelltir ar ochrau'r lein. Gall dyfroedd
glân yr Afon Ddyfrdwy sy gerllaw gynnal nifer o blanhigion ac
anifeiliaid, gan gynnwys rhai prin fel Dyfrgi, Eog a'r Fisglen Berlog. Cafodd y
safle ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal o
Gadwraeth Arbennig er mwyn diogelu'r bywyd gwyllt sydd yma.
|
Roedd
Eglwys Llangar yn cael ei defnyddio o tua 1291 hyd nes codwyd eglwys newydd yn
ei lle yng Nghynwyd yn 1874. Gwelir nifer o nodweddion o'r canol oesoedd y tu
mewn i Eglwys Llangar, fel murlun gyda'i lun dychrynllyd o angau, sy'n deillio
o'r 17eg ganrif. (Cadw sy'n rheoli'r Eglwys gan gynnig teithiau tywysedig o'i
chwmpas. Ffoniwch 01490 412025 yn yr haf neu 01483 336103 i gael mwy o
wybodaeth.)
|
 |
|
| Edrychwch am
Telor y Cnau, Dringwr
Bach, a'r Gnocell Fraith Fwyaf yn dringo i fyny boncyff coeden gan chwilio am
bryfed, Llwyd y Gwrych a'r Dryw bach yn y llwyni, a'r Nico yn bwyta hadau'r
glaswellt ac ysgall.. |