Sut i ddod o hyd i Lwybr Gogledd y Berwyn CROESO i
Lwybr Gogledd y Berwyn. Dyma lwybr llinellol sy'n rhedeg am bymtheg milltir
dros fynyddoedd gwyllt y Berwyn ar ochr ddeheuol yr Afon
Ddyfrdwy.
YN GYNTAF, dewiswch
eich man cychwyn. Os rydych am gerdded y llwybr ar ei hyd am 15 milltir, yna
dechreuwch naill ai yng Nghorwen neu yn Llangollen, mae'r ddwy dref ar
briffordd yr A5 (Caergybi-Llundain), nid nepell o ffin Lloegr. O dref Corwen
mae'r arweiniad hwn yn cychwyn ond gallwch gerdded Llwybr Gogledd y Berwyn o'r
naill gyfeiriad neu'r llall. Os dewiswch fynd o Langollen i Gorwen, cerddwch
rannau'r llwybr o chwith. Os oes well gennych daith gerdded fyrrach, yna
dewiswch ran neu ddwy yn ôl eich anghenion. Gallwch deithio i'r dechrau
ar y trên stem neu gallwch ddod yn ôl ar y trên ar ôl
cyrraedd pen y daith. Gallwch greu taith gylchol sy'n cyfuno Llwybrau Gogledd y
Berwyn a Llwybr Dyffryn Dyfrdwy gan ddefnyddio'r llwybrau cysylltiol sydd yng
Ngharrog ac yng Nglyndyfrdwy.
|
 Gallwch lwytho'r
daflen "Cerdded Llwybr Gogledd y Berwyn " i lawr yma.... Sylwch fod y daflen ar ffurf Adobe .pdf
ac mae'n 3Mb |
Mae'r llwybr
yn 24 kilometr/15 milltir o bellter, gydag arwyddion cyfeirio arno. Caiff y
llwybr ei rannau'n bum rhan, ac mae pob rhan yn cychwyn ac yn dod i ben mewn
mannau sy'n hawdd eu cyrraedd. Llwybr heriol i gerddwyr profiadol yw'r llwybr,
ac er mwyn ichi allu dilyn y llwybr yn ddiogel mae'n angenrheidiol bod gennych
yr offer priodol, sef esgidiau cerdded cryfion, dillad cynnes, dillad glaw, map
1:25,000 OS Explorer (clawr lliw oren): 255 Llangollen a Mynyddoedd y
Berwyn.
|
Ni fyddai'r safle hwn yn bosib oni bai am
gefnogaeth hanfodol oddi wrth y noddwyr hyn:
|
 |
 |
 |
|
 |
|
| Ariannwyd y cynllun hwn yn rhannol gan y Draeth
Agregau |
|