|
|
|||||||||||
|
|||||||||||
| English/Cymraeg |
Croeso i Deithiau Cerdded Dyffryn Dyfrdwy |
||||||||||
| Dyma
gyfres o deithiau cerdded sydd ag arwyddion ar eu hyd ac sydd wedi'u graddoli
yn ôl pa mor anodd ydynt. Ceir yma gyfle i weld golygfeydd hardd, bywyd
gwyllt, ac olion hanes y fro drawiadol hon yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Taith Gerdded Dyffryn Dyfrdwy'n cysylltu trefi Corwen a Llangollen. Pellter yr holl lwybr yw 15 milltir/24 km, ond gallwch fynd wrth eich pwysau drwy gerdded y daith mewn rhannau. |
|||||||||||
Mae Llwybr Hanes Llangollen yn cysylltu nifer o dirnodau hanesyddol yr ardal ar daith gerdded o 6 milltir / 5 km, gydag arwyddion. Ceir mwy o wybodaeth o ddilyn y dolenni. Cyfres o deithiau cylchol byr yw Teithiau Cerdded Corwen sy'n dangos Bywyd Gwyllt a Hanes yr ardal gan gynnwys y cyswllt ag Owain Glyndwr. Mae modd llwytho'r daflen i lawr o'r ddolen uchod. Dewch i gael y profiad o 'gerdded yn y wlad' ar ei orau. ![]() |
|||||||||||